Yn Ein Gwaed
 

Chwarae'r fideo

Y Chwarelwyr

Arlunydd o Ddyffryn Nantlle ydwyf i sydd yn rhoi arddangosfa gydai gilydd erbyn 2008 ar y them chwareli llechi . Mae gennyf 15 o beintiadau mewn golwg ar gyfer yr arddangosfa, lle byddaf yn disgrifio a dangos ynddynt, sut fywyd oedd gan y chwarelwr a sut oedd y chwareli yn effeithio ar fywyd y gymuned. Hoffwn i’r arddangosfa hwn twrio Cymru, Llundain ac i’r Unol Dalaethau a’i enw fydd ‘Yn Ein Gwaed’.

Mae rhan fwyaf ohonom ni y Cymry Cymraeg yng Ngwynedd, yn ddisgynyddion y chwarelwyr, neu yn perthyn i’r diwydiant mewn un ffordd nai gilydd. Mae posib teuru, mai dioddefaint y chwarelwyr, yn enwedig amser y Streic Fawr yn Bethesda , sydd wedi cadw y iaith Cymraeg mor fyw yn ardaloedd llechi Gwynedd.

Mae o ynym ni i gadw ein iaith, ein cymunedau ac ein hanes yn fyw, fel parch at ein cyn deidiau. Yr oedd y greft o chwarelu am lechi yn un pur gymreig ar un adeg ,a llawer o Gymry wedi mynd a’u creft i America .Mae posib dweud bod y gallu i ym-ddal a dal ati drwy amseroedd called drwy hanes , yn ein gwaed.

Yr wyf i wedi bod yn gosod toeau llechi ers oeddwn yn 14 gyda fy nhad a cafodd ddysgu y greft gan ei dad yntau. ‘Roedd fy hendaid yn byw yn Nebo ac yn codi pedwar or gloch bob bore a cherdded tair milltir i Dalysarn, er mwyn fod yng ngwaelod twll “Dorothea” erbyn saith or gloch i gychwyn gweithio. A hyny ar ol dringo lawr 16 ystol i waelod y twll; ac yn gorfod dringo yn ol i fyny er mwyn cerdded adref. Yr oeed hen daid arall i mi yn Gapten ar tair schooner yn cludo llechi allan o Borthmadog. Felly medrwn deuru fod llechi yn siwr, yn fy ngwaed i.

  Paham paentiadau yn hytrach na hen photograffiaeth

Mae yr hen photographiau o’r chwarel wedi cael eu gosod, oherwydd technoleg cynnar y camera, fellu nid ydynt yn dangos cyflwr y gwaith, llwch, anafau, tywydd ac yn bwysicach tydynt ddim yn dangos safbwynt y chwarelwr ai deimladau tuag at gormes oeraidd y Perchenogion tuag at ei iechyd a’i safon byw.

Mae’r greft o greu peintiad dipyn yn wahanol i photograffiaeth oherwydd mae posib rhoi teimlad yn y llun, ac felly mae posib tynu yr ymwelydd i mewn i’r llun i weld sut fywyd oedd gweithio yn y chwareli ,yn pob tywydd a sut oedd hyn yn efeithio iechyd .

Yr oedd llawer o’r chwarelwyr yn marw yn ifanc o pneumonia neu yn heneiddio yn sydyn ac yn cael silicosis . yr oeddent yn gwybod fod y llwch yn eu lladd ond roeddent yn cael eu talu yn sal am orweithio nes i’r gwaith eu gwisgo i lawr.

Hoffwn i ganolbwyntio ar troiad y ganrif,1880 – 1918 , pan oedd craciau yn ymddangos yn y diwydiant , yn enwedig ar ol ‘Streic Fawr y Penrhyn’ (1900-1903). Ac yna y blynyddoedd yn arwain i fyny at y ‘Rhyfel Mawr’, pan oedd prisiau llechi yn syrthio ac yn aros yn isel . Cynyddodd diweithdra ac yn 1917, cyhoeddwyd nad oedd y diwydiant llechi yn ddiwydiant angenrheidiol

Diolch i chi am ymweld â’n safle gwe. Rydw i yn gobeithio y cawsoch atebion i’ch cwestiynau, ond os nad mae croeso i chi gysylltu â fi.

Landcape and Portrait Painter

Dylunwyd gan Delwedd